Eiddo deallusol a바카라 사이트™ch gwaith
Beth yw eiddo deallusol
Mae cael y math cywir o ddiogelwch eiddo deallusol yn eich helpu i atal pobl rhag dwyn neu gopïo:
- enwau eich cynhyrchion neu frandiau
- eich dyfeisiadau
- cynllun eich cynhyrchion neu sut maen nhw바카라 사이트™n edrych
- y pethau rydych yn eu hysgrifennu, eu creu neu eu cynhyrchu
Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae hawlfraint, patentau, dyluniadau a nodau masnach oll yn fathau o ddiogelwch eiddo deallusol. Rydych yn cael rhai mathau o ddiogelwch yn awtomatig, mae바카라 사이트™n rhaid i chi wneud cais am eraill.
Beth sy바카라 사이트™n cyfri fel eiddo deallusol
Mae eiddo deallusol yn rhywbeth yr ydych yn ei greu gan ddefnyddio eich meddwl 바카라 사이트“ er enghraifft, stori, rhywbeth a ddyfeisiwyd, gwaith artistig neu symbol.
Bod yn berchen ar eiddo deallusol
Rydych yn berchen ar eiddo deallusol os:
- ydych wedi ei greu (ac mae바카라 사이트™n ateb y gofynion ar gyfer hawlfraint, patent neu gynllun)
- ydych wedi prynu eich hawliau deallusol gan yr un a greodd yr eiddo neu berchennog blaenorol
- oes gennych frand a allai fod yn nod masnach, er enghraifft, enw cynnyrch adnabyddus
Gall eiddo deallusol:
- gael mwy nag un perchennog
- fod yn eiddo i bobl neu fusnesau
- gael ei werthu neu ei drosglwyddo
Mae hawliau eiddo deallusol yn gadael i chi wneud arian o바카라 사이트™r eiddo deallusol yr ydych yn berchen arno.
Eiddo deallusol os ydych yn hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig, rydych fel arfer yn berchen ar yr eiddo deallusol hyd yn oed os cafodd eich gwaith ei gomisiynu gan rywun arall 바카라 사이트“ heblaw bod eich contract gyda nhw바카라 사이트™n rhoi바카라 사이트™r hawliau iddyn nhw.
Fyddwch chi ddim fel arfer yn berchen ar yr eiddo deallusol am rywbeth a grëwyd gennych yn rhan o바카라 사이트™ch gwaith pan oeddech yn gyflogedig gan rywun arall.