Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Sut mae ISAs yn gweithio
Mae 4 math o Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA):
- ISA arian parod
- ISA stociau a chyfranddaliadau
- ISA cyllid arloesol
- ISA gydol oes (yn agor tudalen Saesneg)
Nid ydych yn talu treth ar:
- llog ar arian mewn ISA
- incwm neu enillion cyfalaf o fuddsoddiadau mewn ISA
Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth, nid oes angen i chi ddatgan unrhyw log, incwm nac enillion cyfalaf ar yr ISA.
Rhoi arian mewn ISA
Bob blwyddyn dreth, gallwch gynilo hyd at £20,000 mewn un cyfrif neu rannu바카라 사이트™r lwfans ar draws sawl cyfrif. Mae바카라 사이트™r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill.
Dim ond mewn un ISA Gydol Oes y gallwch ei dalu mewn blwyddyn dreth. Yr uchafswm y gallwch ei dalu yw £4,000.
Enghraifft
Gallech gynilo £15,000 mewn ISA arian parod, £2,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau a £3,000 mewn ISA cyllid arloesol mewn un flwyddyn dreth.
Enghraifft
Gallech gynilo £11,000 mewn ISA arian parod, £2,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau, £3,000 mewn ISA cyllid arloesol a £4,000 mewn ISA Gydol Oes mewn un flwyddyn dreth.
Enghraifft
Gallech gynilo £10,000 mewn un ISA arian parod, £3,000 mewn ISA arian parod arall a £7,000 mewn stociau ISA a chyfranddaliadau mewn un flwyddyn dreth.
Ni fydd eich ISAs yn cau pan fydd y flwyddyn dreth yn dod i ben. Byddwch yn cadw바카라 사이트™ch cynilion ar sail ddi-dreth cyhyd â바카라 사이트™ch bod yn cadw바카라 사이트™r arian yn eich cyfrifon.
Beth allwch ei gynnwys yn eich ISAs
Gall ISAs arian parod gynnwys:
- cynilion mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu
- rhai cynnyrch Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg)
Gall ISAs stociau a chyfranddaliadau gynnwys:
- cyfranddaliadau mewn cwmnïau
- ymddiriedolaethau unedol a chronfeydd buddsoddi
- bondiau corfforaethol
- bondiau바카라 사이트™r llywodraeth
Chewch chi ddim trosglwyddo unrhyw gyfranddaliadau nad ydynt yn rhan o ISA rydych chi eisoes yn berchen arnynt i ISA oni eu bod yn dod o gynllun cyfranddaliadau gweithiwr (yn agor tudalen Saesneg).
Gall ISAs Gydol Oes gynnwys naill ai:
- arian parod
- stociau a chyfranddaliadau
Gall ISAs cyllid arloesol gynnwys:
- benthyciadau cymar-i-gymar - benthyciadau sy바카라 사이트™n cael eu rhoi i bobl neu i fusnesau eraill heb ddefnyddio banc
- 바카라 사이트˜dyledebau cyllido torfol바카라 사이트™ - buddsoddi mewn busnes drwy brynu ei ddyled
- cronfeydd lle mae바카라 사이트™r cyfnod rhybudd neu adbrynu yn golygu na ellir eu dal mewn ISA stociau a chyfranddaliadau
Ni allwch drosglwyddo unrhyw drefniadau yr ydych eisoes wedi바카라 사이트™u gwneud neu fuddsoddiadau sydd gennych eisoes mewn ISA cyllid arloesol.
Os oes gennych gwestiynau am y rheolau treth ar gyfer ISAs, gallwch ffonio Llinell Gymorth ISA (yn agor tudalen Saesneg).