Yswiriant Gwladol Gwirfoddol
Gwirio pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu
Dysgwch a allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn seiliedig ar bethau fel eich statws cyflogaeth, oedran a ble rydych chi바카라 사이트™n byw.
Os ydych yn gyflogedig
Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn gyflogedig ac mae바카라 사이트™r ddau beth canlynol yn wir:
- rydych yn ennill llai na £125 yr wythnos
- nad ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn hunangyflogedig
Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 os ydych yn hunangyflogedig a bod gennych naill ai:
- incwm gros o £1,000 neu lai
- incwm gros dros £1,000, ond gydag elw o lai na £6,845
Os ydych chi바카라 사이트™n hunangyflogedig fel arholwr, gweinidog yr efengyl, landlord neu mewn busnes buddsoddi, gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3.
Mae cyfraniadau gwirfoddol yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau. Gallwch wirio pa fudd-daliadau y mae바카라 사이트™ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag atynt.
Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig
Gallwch wirio rhagolwg o바카라 사이트™ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol os:
- ydych yn ennill llai na £125 o gyflogaeth
- oes gennych elw sy바카라 사이트™n llai na £6,845 o hunangyflogaeth
Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i wirio os oes gennych flwch mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac i gael gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.
Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd angen i chi gysylltu â바카라 사이트™r Gwasanaeth Pensiwn i wirio a oes gennych fwlch. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.
Os ydych yn ddi-waith
Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn ddi-waith ac mae바카라 사이트™r ddau beth canlynol yn wir:
- nid ydych yn hawlio budd-daliadau
- nid ydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn byw neu바카라 사이트™n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)
I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 mae바카라 사이트™n rhaid i chi naill ai:
- wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol
- fod wedi talu cyfraniadau, neu wedi trin cyfraniadau Dosbarth 2 fel pe baent wedi바카라 사이트™u talu am o leiaf 3 blynedd
I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2, mae바카라 사이트™n rhaid i바카라 사이트™r ddau o바카라 사이트™r canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- roeddech yn gweithio yn y DU yn syth cyn gadael
- rydych yn gweithio dramor ar hyn o bryd (neu wedi bod yn gweithio tra roeddech dramor)
Rhwng Tachwedd 2017 ac Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Nododd yr arweiniad fod yn rhaid i바카라 사이트™r holl amodau hyn fod yn wir. Os na wnaethoch gais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i바카라 사이트™r arweiniad anghywir, mae바카라 사이트™n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Esboniwch eich sefyllfa pan fyddwch yn gwneud cais.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio rhagolwg o바카라 사이트™ch Pensiwn y Wladwriaeth neu gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 6 mis nesaf, cysylltwch â바카라 사이트™r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg). Byddant yn gwirio a oes gennych fwlch mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi ei dalu.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac am lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gallwch dalu:
- cyfraniadau Dosbarth 3
- cyfraniadau Dosbarth 2 os ydych yn gymwys