Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig

Printable version

1. Trosolwg

Mae바카라 사이트™n rhaid i chi gadw cofnodion o incwm a threuliau eich busnes ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig fel:

  • unig fasnachwr

  • partner mewn partneriaeth fusnes

Mae바카라 사이트™r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd angen i chi hefyd gadw cofnodion o바카라 사이트™ch incwm personol.

Os mai chi yw바카라 사이트™r partner enwebedig (yn agor tudalen Saesneg) mewn partneriaeth, mae바카라 사이트™n rhaid i chi hefyd gadw cofnodion ar gyfer y bartneriaeth.

Mae rheolau gwahanol ar gadw cofnodion ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).

Cofnodi eich incwm a바카라 사이트™ch treuliau

Os ydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer eich busnes, bydd angen i chi ddewis y dyddiad y bydd eich cyfnod o gadw바카라 사이트™r cofnodion hyn yn dechrau, a바카라 사이트™r dyddiad y bydd y cyfnod hwn yn dod i ben 바카라 사이트“ fel arfer, bydd y dyddiadau hyn yn aros yr un peth pob blwyddyn.

Efallai y bydd yn haws i chi lenwi바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth os yw바카라 사이트™r dyddiad yn cyd-fynd â바카라 사이트™r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Mae hyn oherwydd bod Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo treth yn seiliedig ar y flwyddyn dreth. Os nad yw바카라 사이트™ch cyfrifon yn cyd-fynd â바카라 사이트™r flwyddyn dreth, bydd angen i chi ddyrannu elw i 2 gyfnod cyfrifyddu gwahanol.

Os nad ydych yn paratoi cyfrifon, bydd angen i chi gofnodi eich incwm a바카라 사이트™ch treuliau ar gyfer pob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Dulliau cyfrifyddu

Bydd yn rhaid i chi ddewis dull cyfrifyddu.

O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen, cyfrifyddu ar sail arian parod yw바카라 사이트™r dull diofyn o gyfrifo (yn agor tudalen Saesneg). Mae바카라 사이트™n rhaid i chi optio allan os ydych am ddefnyddio cyfrifyddu traddodiadol neu os na allwch ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod.

Cyfrifyddu ar sail arian parod

Gall y rhan fwyaf o fusnesau ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).

Gyda바카라 사이트™r dull hwn, rydych ond yn cofnodi incwm neu dreuliau pan fyddwch yn cael arian neu바카라 사이트™n talu bil. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu Treth Incwm ar arian nad ydych eto wedi바카라 사이트™i gael.

Enghraifft

Rydych yn cofnodi eich incwm a바카라 사이트™ch treuliau yn unol â바카라 사이트™r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Gwnaethoch anfon anfoneb at rywun ar 15 Mawrth 2024, ond ni chawsoch yr arian tan 30 Ebrill 2024. Dylech gofnodi바카라 사이트™r incwm hwn fel petai wedi dod i law ar 30 Ebrill 2024, hynny yw, ei gofnodi ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.

Cyfrifyddu traddodiadol

Mae llawer o fusnesau바카라 사이트™n defnyddio cyfrifyddu traddodiadol lle rydych yn cofnodi incwm a threuliau yn ôl y dyddiad y gwnaethoch anfon anfoneb neu a gawsoch eich bilio.

Enghraifft

Rydych yn paratoi cyfrifon hyd at 31 Mawrth pob blwyddyn. Gwnaethoch anfon anfoneb at gwsmer ar 28 Mawrth 2024. Rydych yn cofnodi바카라 사이트™r anfoneb honno ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 바카라 사이트“ hyd yn oed os na chawsoch yr arian tan y flwyddyn dreth nesaf.

2. Pa gofnodion i바카라 사이트™w cadw

Bydd angen i chi gadw cofnodion o바카라 사이트™r canlynol:

Pam fod angen i chi gadw cofnodion

Nid oes angen i chi anfon eich cofnodion pan rydych yn cyflwyno바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth, ond bydd angen i chi eu cadw fel y gallwch wneud y canlynol: 

  • cyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth

  • eu dangos i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os gofynnir amdanynt

Mae바카라 사이트™n rhaid i chi sicrhau바카라 사이트™r canlynol:

  • bod eich cofnodion yn gywir 

  • eich bod yn gallu adnabod trafodion busnes

Mae바카라 사이트™n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio cyfrif banc personol neu gyfrif banc busnes ar gyfer eich busnes. Gwiriwch gyda바카라 사이트™ch banc pa fath o gyfrif y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer trafodion busnes.

Cadw tystiolaeth

Mae mathau o dystiolaeth yn cynnwys:

  • pob derbynneb ar gyfer nwyddau a stoc

  • cyfriflenni banc, bonion llyfr siec

  • anfonebau gwerthiannau, rholiau til a slipiau banc

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol

Yn ogystal â바카라 사이트™r cofnodion safonol, bydd angen i chi hefyd gadw rhagor o gofnodion fel bod eich Ffurflen Dreth yn cynnwys:

  • yr hyn sy바카라 사이트™n ddyledus i chi ond nad ydych wedi바카라 사이트™i gael eto

  • yr hyn rydych wedi ymrwymo i바카라 사이트™w wario ond nad ydych wedi바카라 사이트™i dalu eto, er enghraifft rydych wedi cael anfoneb ond heb ei thalu eto

  • gwerth y stoc a바카라 사이트™r gwaith ar y gweill ar ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu

  • eich balans banc ar ddiwedd y flwyddyn

  • faint yr ydych wedi바카라 사이트™i fuddsoddi yn y busnes yn ystod y flwyddyn

  • faint o arian yr ydych wedi바카라 사이트™i dynnu at eich defnydd eich hun

3. Pa mor hir y dylech gadw eich cofnodion

Mae바카라 사이트™n rhaid i chi gadw eich cofnodion am o leiaf 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, sef 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth berthnasol. Efallai y bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gwirio바카라 사이트™ch cofnodion i wneud yn siŵr eich bod yn talu바카라 사이트™r swm cywir o dreth.

Enghraifft 

Os gwnaethoch gyflwyno바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth 2022 i 2023 ar-lein erbyn 31 Ionawr 2024, mae바카라 사이트™n rhaid i chi gadw바카라 사이트™ch cofnodion tan o leiaf diwedd mis Ionawr 2029.

Ffurflenni Treth hwyr iawn

Os byddwch yn anfon eich Ffurflen Dreth fwy na 4 blynedd ar ôl y dyddiad cau, bydd angen i chi gadw바카라 사이트™ch cofnodion am 15 mis ar ôl i chi anfon y Ffurflen Dreth honno.

Os caiff eich cofnodion eu colli, eu dwyn neu eu dinistrio

Os na allwch roi cofnodion newydd yn eu lle, mae바카라 사이트™n rhaid i chi wneud eich gorau i roi ffigurau i ni. Rhowch wybod i CThEF pan fyddwch yn cyflwyno바카라 사이트™ch Ffurflen Dreth os ydych yn defnyddio바카라 사이트™r canlynol:

  • ffigurau amcangyfrifedig - eich amcangyfrif gorau pan na allwch roi바카라 사이트™r ffigurau gwirioneddol

  • ffigurau amodol - eich ffigurau amcangyfrifedig dros dro wrth i chi aros am ffigurau gwirioneddol (bydd angen i chi hefyd gyflwyno ffigurau gwirioneddol pan fyddant ar gael)